Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld รข gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Sunday 21 December 2008

Child Poverty in Ceredigion

I have written to Leighton Andrews AM on the matter and forwarded a copy to Cardigan Town Council, see below, :-

Annwyl Weinidog

Yn y lle cyntaf rwyf am groesawu bwriad Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau tlodi plant drwy "...raglenni cefnogi gwaith, mentrau gofal plant, rhaglenni addysg ac iechyd, ymyriadau Cymunedau yn Gyntaf a sicrhau'r
uchafswm o ran incymau...". Serch hynny rwy'n pryderu na fydd y mesurau yma yn gymorth i Geredigion, yn benodol Ward Teifi, Aberteifi sydd a'r dangosyddion tlodi plant uchaf yn Ngheredigion.

Yn y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2008 mae ward Teifi yn sgorio'n uchel am amddifadedd Tai ac amddifadedd Incwm ond gan ei fod yn Ward drefol, yn isel am amddifadedd Mynediad i Wasanaethau. Mae hyn yn wir am Ward Rhydyfuwch, Aberteifi yn ogystal. Ymddengys bod lefel isel mewn un o'r dangosyddion yn cuddio lefelau uwch mewn dangosyddion eraill wrth ystyried y Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ar gyfer 2008 yn ei gyfanrwydd. O'r herwydd gall wir dlodi fynd heb ei gydnabod ac rwyf yn amau bod hyn yn wir am Ward Teifi ac i raddau am Ward Rhydyfuwch.

Hyd a lled hyn oll yw nad yw'r Wardiau yma yn gymwys i dderbyn adnoddau Cymunedau'n Gyntaf/Nesaf. Rwy'n credu bod angen adolygu hyn a'i gwneud yn bosib i Wardiau Teifi a Rhydyfuwch cael eu dynodi yn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf/Nesaf. Gall y gymuned yna fynd ati i weithredu a lleihau tlodi plant.

Mawr obeithiaf y byddwch yn ystyried y syniad yma ac edrychaf ymlaen at eich ateb.

Firstly, I wish to welcome the Welsh Assembly Government’s intention to reduce child poverty through “…..work support programs, child protection schemes, health and education programs, Communities First interventions and ensuring maximum incomes…” Despite this I am concerned that these measures will not benefit Ceredigion, in particular the Teifi Ward in Cardigan which has the highest indication of child poverty in Ceredigion.

In the 2008 Wales Index of Multiple Deprivation Teifi ward scores high
for Housing deprivation and Income deprivation but as it’s an urban Ward, it scores low for Access to Services deprivation. This is also true in the case of Rhydyfuwch ward, Cardigan. When the 2008 Wales Index of Multiple Deprivation is read in its entirety, it appears that low levels in one of the indicators hides higher levels in other indicators. As a result, real poverty may go unnoticed and I fear that this is the case in the Teifi Ward, and to some extent in the Rhydyfuwch Ward.

The long and short of this is that these Wards don’t qualify to receive Communities First/Next resources. I believe that this should be reviewed in order to make it possible for the Teifi and Rhydyfuwch Wards to be recognized as Communities First/Next areas. The community can then act to reduce child poverty.

I greatly hope that you will give this idea careful consideration and look forward to your response.

No comments: