Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld â gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Monday 20 July 2009

Barnett, Holtham, ariannu teg a’r Arglwyddi

Mae adroddiadau arwyddocaol bellach yn cael eu henwi ar ôl eu cadeirydd neu gydlynydd ac yn aml, heb unrhyw gyfeiriad at eu pwrpas. Beth wnaeth ‘Wanless?’ A beth am ‘Dearing’? Mae’r un yn wir am fformiwla ‘Barnett’ ac adroddiadau arno megis 'Holtham' Nid yw hyn yn tanseilio eu pwysigrwydd, yn wir, maent o bwys mawr ac yn hynod berthnasol. Yn ôl y Bas Data Cyfenwau 'Barnett' yw cyfenw un oedd yn byw ar “dir wedi ei glirio trwy losgi” (Baernet) neu enw personol “Bernhard” yn golygu “arth-ddewr.” Nid anodd yw hi yng Nghymru i wneud y naid gysyniadol o ‘slash and burn’ i’r noddi diffygiol a gynhyrchir gan fformiwla Barnett. Mae ‘Holtham’, ar y llaw arall, yn gyfenw lleoliadol Eingl-Sacson o Hampshire sy’n disgrifio rhywun o fferm, neu yn aml, rhywun sydd wedi symud ymaith. Mewn iaith gyfoes - ‘mynd yn frodorol’.
Nid yw marsianfancwyr dinesig yn cael eu hadnabod am ‘fynd yn frodorol’ y tu allan i Lundain, hyd yn oed os ydynt wedi eu geni yng Nghymru, felly pan fo hynny’n digwydd rhaid bod mater sy’n werth ei ystyried.

Yn ystod y pythefnos diwethaf rydym wedi cael Adroddiad Holtham ac adroddiad yr Arglwyddi ar 'Barnett'. Mae’r ddau yn dod i’r casgliad nad yw’r fformiwla’n gweithio, dywedwch rywbeth newydd wrthym meddech chi, ond nid dyna’r pwynt. I newid rhan gymhleth o waith y Trysorlys yn llwyddiannus rhaid i chi adeiladu consensws; mae adroddiadau annibynnol megis Holtham yn werth eu ffortiwn, ond mae adroddiadau gan fawrion Pwyllgor yr Arglwyddi yr un mor rymus gan iddynt siarad yr un iaith â Swyddogion y Trysorlys sy’n gyfrifol am fformiwla Barnett. Mae’n rhan o’r un broses dros newid.

Yn ystod y 13 mlynedd diwethaf mae Llafur Cymru wedi dewis peidio manteisio ar y cyfle i sbarduno newid. Maent yn dadlau, fel Paul Murphy, nad yw newid yn angenrheidiol ac y bydd Cymru ar ei cholled; eto’n codi ofn yn ddiangen pan nad oes dadl arall yn bodoli. Gallaf ganfod dadl symlach, sef fod y mwyafrif o ASau Llafur yn ddifater ar y gorau, ac fel arfer yn wrthweithiol tuag at ddatganoli rhag ofn iddo effeithio eu statws. Po fwyaf fo’n rhaid i’r Cynulliad sgrialu am arian a cheisio cynnal gwasanaethau addysg ac iechyd cyhoeddus dan bwysau aruthrol, y mwyaf anghynaladwy y bydd datganoli’n ymddangos. Gyda blynyddoedd o reolaeth Geidwadol o’n blaenau yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol, mae’n strategaeth ddinosoraidd y byddant yn ei ddifaru mewn amser.

No comments: