Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld â gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Friday 28 November 2008

Bydd mwy o Sywddfeydd Post Ceredigion yn cau os yw cardiau’n cael eu hatal.

Mae Penri James o Blaid Cymru wedi rhybuddio y bydd mwy o Swyddfeydd Post yn cau yng Ngheredigion os yw’r cytundeb Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post yn cael ei atal o Swyddfa’r Post Cyf.
Bydd y penderfyniad gan Lywodraeth San Steffan i wobrwyo’r cytundeb Cyfrif Cerdyn yn cael ei wneud yn y dyfodol agos, gyda dau gwmni’n gwneud cais i reoli’r gwasanaeth – Swyddfa’r Post Cyf a Paypoint.

Mae Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-Bostfeistri yn amcangyfrif y gall 200 Swyddfa Bost yng Nghymru, a hyd at 3,000 ledled y DU gau os na chaiff y cytundeb ei roi i Swyddfa’r Post Cyf.

Wrth wneud sylwadau ar y rhybudd hwn, dywedodd Penri James o Blaid Cymru:

“Rwy’n rhannu’r pryder cynyddol y bydd nifer o ganghennau’n cau ar hyd a lled y wlad os ddaw y gwasanaeth cyfrif cerdyn i ben yn ein Swyddfeydd Post. O ganlyniad, mae’n hanfodol bwysig fod Llywodraeth San Steffan yn ystyried y cyfraniad cymdeithasol pwysig mae einn swyddfeydd post yn ei gynnig wrth ddyfarnu’r cytundeb newydd hwn, yn hytrach na dibynnu ar ystyriaethau masnachol yn unig.”

“Dylai llywodraeth Gordon Brown fod yn gweithredu camau fydd yn cryfhau rhwydwaith Swyddfa’r Post yn hytrach na thynnu gwasanaethau pwysig o’n canghennau. Serch hyn, rwyf yn falch fod Llywodraeth Cymru’n Un yn gweithio gyda changhennau lleol Swyddfa’r Post drwy’r Gronfa Ddiwygiedig Datblygu Swyddfeydd Post newydd.”
Bydd cynrychiolwyr o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-Bostfeistri yn mynychu’r drafodaeth.

Rhybuddiodd Keith Richards o Swyddfa Bost Glyn-nedd a’r Swyddog Gweithredol dros Gymru:

“Os na gaiff y Cyfrif Cerdyn ei ddyfarnu i Swyddfa’r Post Cyf. Yna gall 200 swyddfa bost yng Nghymru, a 3,000 ledled Prydain gau oherwydd diffyg busnes. Byddai’r rhaglen gau allan o reolaeth, yn wahanol i’r cynllun newid rhwydwaith diweddar, a buasai’n effeithio ardaloedd gwledig yn bennaf lle mae pobl yn ddibynnol arnynt i ddosbarthu Pensiynau a Buddiant. Buasai’n rhaid i swyddfeydd post benderfynu a fyddent yn medru aros ar agor neu wynebu methdaliad.”

“Ymddengys fod y Llywodraeth yn LLundain yn osgoi penderfyniad yn y cyhoeddiad ac wrth i’r ansicrwydd barhau, mae’r sefyllfa yn peri mwy o bryderr. Ni all is-bostfeistri fuddsoddi yn eu busnesau os na wyddont beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.”

No comments: