Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld â gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Thursday 27 November 2008

Ymateb y Cynulliad i’r dirwasgiad ar y gorwel


Un o’r argraffiadau cyntaf a roir gan Lywodraeth y Cynulliad yn ei ymateb i’r dirwasgad yw cyn lleied y gall wneud i drin y liferi sy’n rheoli’r economi macro. Mae’r ymateb i anhawsterau ariannol wedi’i seilio’n gadarn yn San Steffan a dyna pham fod nawr yn rhaid i ASau ddangos eu bod yn haeddu eu cyflogau. Maent wedi bod yn fwy na pharod i ddangos eu gallu pan yn edrych ar y Cynulliad Cenedlaethol, nawr rhaid iddynt arddangos y gallu hwnnw tra’n delio â’r Llywodraeth.

Yn y cyfamser rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru weithredu’n effeithiol o fewn ei bwerau presennol, mae’r ymateb hyd yma yn gyfystyr â sicrhau fod y Llyowdraeth yn talu biliau ar amser, sicrhau fod cwmniau lleol yn cael ymgeisio am brosiectau cyfalaf lleol diolch i adolygiad o reolau caffaeliad, rhoi blaenoriaeth i brosiectau cyfalaf, meithrin sylfaen sgiliau ehangach a darparu Finance Wales gyda £150M o nawdd ychwanegol drwy gronfeydd adeileddol JEREMIE . Ni allaf ganfod gwallau yma gan mai synnwyr cyffredin ydyw yn bennaf.

Rwy’n pryderu am y prosiectau cyfalaf. Mae’n debyg mai’r unig brosiectau cyfalaf y gellir eu prysuro yw’r rhai sydd eisoes wedi cael caniatad cynllunio. Hoffwn wybod faint o’r rhain sy’n bodoli ac mewn termau ariannol pa ran o’r gyllideb gyfan yw hyn? Gellir ailwampio’r camau i brysuro cynlluniau prosiectau cyfalaf drwy ail-edrych ar bolisiau cynllunio, cyflymder y broses gwneud penderfyniadau ac ymgynhgoriad atodedig, yn enwedig gyda’r Asiantaeth Cefnffyrdd. Mae cymaint o brosiectau yn cael eu gohirio oherwydd gweision sifil pedantig, er lles yr economi gadewch i ni eu rhoi i’r neilltu. Mae’r un peth yn wir am bolisiau caffaeliad sy’n tueddu i ffafrio’r corfforaethau mawr ac nid cwmniau lleol a gwledig. Unwaith eto, rhaid cael gwared ar reolau gwirion a galluogi cyrff cyhoeddus i gynnig cytundebau ar y maint effeithlon lleiaf sy’n cefnogi’r economi leol.

No comments: