Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld รข gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Tuesday 5 January 2010

Hywel Teifi Edwards

Colled i'r teulu ond hefyd colled aruthrol i'r genedl gyfan, bydd yn gadael etifeddiaeth academaidd sylweddol ar ei ol a thrysor o storiau am ei bresenoldeb mewn dosbarth, darlith neu wrth fwrdd mewn tafarn.
Hywel Teifi oedd gwraidd anuniongyrchol y cyngor gorau all rhywun gael am areithio mewn siambr llywodraeth leol. Tra'n aelod o Gyngor Dyfed fe godais ar fy nhraed a siarad yn aneffeithiol am rhyw 5 munud, pwt yn fy nghefn wedyn gan Myrddin bach (Cynghorydd Llafur o Rydaman) ac yn nodi "...odd Hywel Teifi yn gweud iti siarad am 3 munud yn unig, y funud gyntaf i baratoi'r cynghorwyr i wrando, yr ail funud i ddweud beth sy'n bwysig a'r funud olaf i gadw'r diawled ar ddihun. Cer 'mlan fwy a fe fydd y diawled wedi mynd i gysgu...". Fe gaeodd y sylwadau gyda'i chwerthiniad fach ddrigionus. Cyngor oedd hwn i fod yn gryno a chic hefyd i natur hynafol y cynghorydd traddodiadol.
Ni fydd tebyg eto.

No comments: