Diddorol oedd darllen y blog yma gan Vaughan Roderick ar deyrngarwch at bleidiau gwleidyddol a sgil effaith newid plaid. Nid wyf am un funud yn dadlau a'r dadansoddiad mae emosiwn sy'n bennaf gyfrifol am yr adwaith at un sy'n newid plaid (mae llyfr Drew Weston 'The Political Brain' yn dda ar hyn) ond nid wyf yn credu ei fod yn fater "parhaus" i drwch aelodaeth plaid wleidyddol. Wrth reswm mae gan pob plaid ei 'Taliban' na fydd byth yn hapus gyda unigolion sy'n estron i'w dehongliad, cul gan amlaf, o bolisi a rheolau'r blaid perthnasol; byddai disgwyl felly iddynt fod yn anhapus hyd diwedd eu hoes ag unigolion sy'n newid plaid. Nid felly gyda'r mwyafrif gan bod amser, ac yn aml cymeriad yr unigolyn dan sylw, yn meirioli'r ymateb cyntaf.
Ni chwrddais erioed a Ron Davies a phrin wyf yn adnabod Alun Davies ond rwy'n gyfarwydd iawn ag Elystan. Dyma ddyn sy'n llawn hygrededd, sy'n arddel ei Gymreictod a'i genedlaetholdeb ag yn parchu'r unigolyn a'i gymuned. Does dim rheswm pam ddylai unrhyw un fod yn gas yn 'barhaol' tuag ato. Y tystiolaeth sydd gen i yw'r gwrthwyneb - edmygedd at eu allu a'r hyn mae'n ei wneud, a'r prif reswm am hyn yw ei gymeriad. Tybiaf bod maddeuant am yr hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol yn llwyr ddibynol ar gymeriad hynaws. Gwers i bawb.
No comments:
Post a Comment