Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld â gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Thursday, 19 February 2009

ASE yn ennill y bleidlais ar stoc syrthiedig

Newyddion da o Frwsel
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi ennill cefnogaeth Pwyllgor Amgylchedd Senedd Ewrop i ganiatáu i ffermwyr gael gwared ag anifeiliaid marw ar eu ffermydd. Cefnogodd Pwyllgor yr Amgylchedd welliant wedi ei gynnig gan Ms Evans i newidiadau arfaethedig i reoliadau Ewropeaidd ynglŷn â chael gwared ag anifeiliaid marw neu stoc syrthiedig.

Cefnogodd y pwyllgor yr egwyddor o gyfyngu ar-fferm. Mae hwn yn achos o bryder arbennig i Gymru, yn enwedig casglu stoc syrthiedig o ffermydd defaid ar yr ucheldiroedd. Caiff llawer o’r sector ddefaid yng Nghymru ei ffermio’n helaeth ar ucheldiroedd ac mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd, ac mae hyn yn achosi anhawster mawr i gasglu a difa stoc syrthiedig.

Daethpwyd â’r arfer o gyfyngu ar-fferm i ben sawl blwyddyn yn ôl gan yr Undeb Ewropeaidd, ond erbyn hyn, mae nifer fawr yn credu yr aethpwyd i’r afael ynglŷn ag unrhyw bryderon sy’n dal i fodoli am ddiogelwch difa anifeiliaid ar-fferm. Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn datblygu ‘treuliwr’ er mwyn cael gwared ag anifeiliaid marw yn y fan a’r lle mewn dull sydd yn dda i’r amgylchedd.

Wrth siarad ar ôl y bleidlais ym Mrwsel, dywedodd Jill Evans:

"Mae’n bryd i ni ddiweddaru’r rheolau yma ynglŷn â stoc syrthiedig. Cyfeiriwyd at nifer fawr o bryderon ynglŷn â diogelwch erbyn hyn ac rydym yn gweld datblygiad dull blaengar a da i’r amgylchedd o gyfyngu ar-fferm yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor. Bydd cynrychiolwyr o Fangor yn dod i Frwsel ym mis Mawrth i arddangos y project.

"Rwy’n falch iawn fod Pwyllgor yr Amgylchedd wedi cefnogi fy ngwelliannau’r rheoliad. Mae ffermwyr wedi dangos bod y cyfyngiadau ar gael gwared â stoc syrthiedig yn achosi problemau aruthrol iddyn nhw. Roedd Gweinidog Materion Gwledig Cymru’n Un, Elin Jones ym Mrwsel i drafod hyn gyda’r Comisiynydd Vassiliou ychydig wythnos yn ôl. Mae Plaid Cymru ar ochr ffermwyr yng Nghymru a bydd yn ymgyrchu dros newid.

"Mae gyda beth o’r ffordd i fynd, ond rwy’n obeithiol iawn y byddwn yn gallu ennill y ddadl ar stoc syrthiedig."

No comments: