Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld â gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Wednesday 18 February 2009

Gormod o arwyddion ‘ar werth’ yn Aberystwyth

Mae lluosogrwydd arwyddion ‘ar werth’ ac ‘i’w osod’ yn Aberystwyth yn ganlyniad yr hinsawdd economaidd ac yn gynnyrch anffodus o’r amgylchiadau presennol. Nid oes modd osgoi hynny.
Mae fy marn yn wahanol lle bo arwyddion ar adeiladau’r Cyngor Sir yn y cwestiwn. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi profi ei bwynt, rydym oll yn gwybod ei fod yn gwerthu rhannau o’i ystâd gorfforaethol yn Aberystwyth. Serch hyn, mae’n awgrymu fod y dref gyfan ar werth yn enwedig o ystyried maint yr arwyddion eu hunain.
Nawr ein bod yn gweld myfyrwyr posib a rhieni’n ymweld â’r brifysgol am gyfweliadau, ac mae’r Pasg ar y gorwel, mae’n rhoi’r argraff anghywir. Mae prynwyr posib yn annhebygol o ganfod cyfle busnes drwy edrych ar arwydd, maent yn fwy tebygol o fod wedi’i weld ar y we, mewn siop gwerthwr tai neu drwy siarad â rhywun. Mae hyn yn gwneud yr arwyddion yn ddianghenraid. Yn hytrach na rhoi’r argraff fod y dref ar werth, pam na all y Cyngor dynnu’r arwyddion i lawr, mae wedi profi ei bwynt.

No comments: