Gwefan Ymgyrch / Campaign Website

Ydych chi wedi ymweld â gwefan yr ymgyrch eto?

Have you visited the campaign website yet?


http://www.penrijames.com/



Thursday 11 December 2008

Celf Gyhoeddus

Rwy’n hoff iawn o gelf gyhoeddus yn enwedig pan fydd wedi ei wneud yn dda. Mae’r fam a’r plentyn ar stryd y Frenhines yng Ng haerdydd yn gwneud i chi feddwl, mae gwaith Anthony Gormley yn ysbrydoliaeth, ond ymddengys nad ydym yn cael llawer o lwc yma yng Ngheredigion. Daw hyn â mi at y prosiect ‘Big Art’ yn Aberteifi. Mae’r syniad o wario sawl £’000 ar fwi dros dro wedi eu goleuo’n lliwgar wedi bod yn un amheus. Os yw’r arian yno, dylid ei wario ar rywbeth parhaol a pherthnasol i hanes a threftadaeth Aberteifi.

Mae gennyf reolau penodol y dylid ufuddhau iddynt wrth ddelio â chelf gyhoeddus:-
- Rhaid i’r prosiect fod wedi derbyn consensws cyhoeddus;
- Dylai’r gwrthrych celf gael naratif sy’n berthnasol i hanes a threftadaeth yr ardal ble mae wedi ei leoli;
- Rhaid iddo fod yn nodwedd barhaol;
- Dylai pobl fod yn medru ei gyffwrdd a’i deimlo er mwyn creu synnwyr o berchnogaeth.

Mae’n gas gen i farnu, ac nid yw’n tarddu o dueddiadau cyntefig, nid wyf yn credu fod y bwi wedi eu goleuo yng Ngheredigion yn bodloni criteria’r rheolau hyn. Buasai cofeb barhaol i’r Arglwydd Rhys a’r Eisteddfod gyntaf yn syniad gwell ac yn rhywbeth fuasai yma mewn 68 o flynyddoedd pan fydd y milfed dathliad. Mae’n hen bryd newid meddyliau.

No comments: