Diogelwch ynni yng Ngheredigion
Mae polisi ynni, yn enwedig darpariaeth trydan, yn fater allweddol nid yn unig ar raddfa fyd-eang ond ar raddfa lleol hefyd. Mae’n rhaid i ni yng Ngheredigion ddangos mwy o ddiddordeb yn y ddadl am gysylltiad y Grid Cenedlaethol sy’n digwydd yn Sir Fynwy ar hyn o bryd. Bydd casgliadau’r ddadl yn effeithio diogelwch ein ynni yng Ngheredigion.
Ychydig o gefndir i ddechrau; mae trawsyriad trydan foltedd uchel yn fwy effeithlon na thrawsyriad foltedd is felly bydd y cyflenwad trydan yn fwy effeithlon a dibynadwy, yr agosaf fydd gwifrau foltedd uchel 400kV. Mae’r gwifrau 400kV agosaf at ganolbarth Cymru wedi’w lleoli ger Abertawe, yn Nhrawsfynydd a’r Amwythig. Mae ardaloedd arfordirol Ceredigion yn bell iawn oddi wrth y prif wifrau pwer ac mae’r rhwydwaith lleol yn agored iawn i niwed.
Mae’n anffodus fod y ddadl wedi priodi ffermydd gwynt TAN 8 gyda grid trydan cenedlaethol gwell, dylid eu hysgaru. Ni chaiff unrhyw un o’r ffermydd gwynt eu hadeiladu heb y cysylltiadau newydd 400kV gan fod rhaid allforio’r ynni sydd wedi’w gynhyrchu a rhaid talu am y grid newydd. Mae’n broblem real, a ydym ni’n cefnogi’r ffermydd gwynt newydd i gael gwell cysylltiad grid? Neu a ydym ni’n gwrthwynebu’r ffermydd gwynt a byw gyda’r posibilrwydd o dlodi trydanol? Does neb eisiau peilonau mawr, ond nid ydym eisiau colli ein cyflenwad trydan chwaith.
Un ateb yw i gladdu’r ceblau ond mae’n debyg y buasai’r gost ychwanegol yn cael ei ychwanegu at ein biliau cyflenwad. Ateb arall yw i ddefnyddio’r trydan sydd wedi’w gynhyrchu’n lleol i gyflenw i anghenion lleol, y broblem gyda hyn yw bod cynhyrchiad trydan hydro ac adnewyddadwy yng Ngheredigion yn dymhorol, a gall olygu tlodi yn ystod amseroedd penodol o’r flwyddyn.
Mae hi’n hanfodol bwysig i ni gadw golwg ar y ddadl hon ac i ymyrryd pan fo angen. Heb amheuaeth byddwn yn dychwelyd at y mater hwn yn y dyfodol agos.
An easy mistake
3 days ago
No comments:
Post a Comment