Cost goleuadau stryd
Mae yna erthygl ddiddorol gan y BBC ynglŷn â Faint mae'n ei gostio i weithio goleuadau stryd? sy’n clymu gyda’r sïon sydd ar led yng Ngheredigion. Yn ôl y sôn gall gostio rhwng £14 a £90 i weithio bob golau, yn ddibynnol ar ei fath, i’w cadw ynghyn yn ystod misoedd y gaeaf.
Rwy’n dal i gredu y dylid dim ond diffodd goleuadau ble mae’r gymuned yn credu y dylid eu diffodd, ac mewn ardaloedd eraill diffodd y goleuadau pob yn ail, cyn belled fod y gymuned yn cytuno. Dylai hynny haneru’r gost. Mae’r sïon hefyd yn dweud nad yw diffodd y goleuadau bob yn ail yn bosib oherwydd unai nid oes amserydd arnynt, neu maent yn cynnau/diffodd o ganlyniad i gell sy’n sensitive i olau. Mae rhai awdurdodau lleol megis Torfaen wedi dewis rhoi amserwyr ar eu goleuadau sy’n golygu y gellir eu diffodd. Dyma achos o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol ac mae’n arferiad da. Dylai gael mwy o gyhoeddusrwydd.
Wishing Everyone a Happy Christmas
8 hours ago
No comments:
Post a Comment