Dim cynllwyn......wir!
Efallai i Ddemocratiaid Rhyddfrydol lleol synhwyro cynllwyn pe baent wedi pasio bwyty lleol heno a gweld Ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru dros Geredigion (fi) yn ciniawa gydag Ymgeisydd San Steffan y Ceidwadwyr dros Sir Drefaldwyn (Glyn Davies), y ddwy sedd yn perthyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Pwyllwych Ddemocratiaid Rhyddfrydol, mae ganddom oll gyfrifoldebau eraill, roedd Glyn Davies yn Aberystwyth yn traddodi darlith fel Llywydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ac roeddwn yn ei ddiddanu fel Darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Siaradodd Glyn â Chymdeithas Stapledon am hanner awr am beth sy’n ei ysgogi, ei waith fel Aelod Cynulliad, ei waith fel Llywydd YDCW a rhai o brif faterion Cymru wledig. Dilynwyd hyn gan hanner awr ddiddan o ddadl a thrafodaeth. Diolch i’w waith ef mae YDCW wedi newid o fod yn fudiad un mater – gwrthwynebu ffermydd gwynt – i ddangos diddordeb mewn rôl gyfrannol llawer ehangach. Noson dda.
Wishing Everyone a Happy Christmas
8 hours ago
No comments:
Post a Comment