Cefnogwyr Cerddoriaeth Beripatetig Ceredigion
Mae’r hyfforddiant a ddarperir gan Athrawon Cerddoriaeth Beripatetig Ceredigion ymysg y gwasanaethau mwyaf llwyddiannus ac effeithiol ym mhortffolio Cyngor Sir Ceredigion. Mae’n galluogi unigolion i ddysgu a datblygu sgiliau chwarae offerynnau; i gydweithio ag eraill fel aelod o gerddorfa, band, ensemble neu gor; ac i gyflawni’r safonnau cerddorol uchaf posib. Mae’r gwasanaeth yn ennill edmygedd ledled Cymru a thu hwnt.
Mae cynigion Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i ad-drefnu ac ail-ariannu’r gwasanaeth yn peri pryder mawr i ddisgyblion, cyn-ddisgyblion, athrawon a rhieni oll. Ni ddylai’r gwasanaeth, ar unrhyw gyfrif, gael ei leihau mewn unrhyw ffurf. Mae amheuaeth wedi’i fynegi parthed y rhagdybiaethau ariannol a ddefnyddiwyd yn yr ad-drefniad, a’r safbwynt sydd wedi’i fabwysiadu gan yr uwch reolwyr a chynghorwyr gwasanaeth sy’n gyfrifol am y broses o wneud penderfyniadau.
Efallai nad yw hyn yn achos o’r ‘lunatics in charge of the asylum’ ond heb os, dyma enghraifft o’r ‘bean counters in charge of education’. Nid fel hyn y dylai hi fod. Rhaid i ni ddangos cefnogaeth i’n athrawon peripatetig ac ymgyrchu i gynnal y gwasanaeth fel y mae. Rwyf wedi creu Grwp Facebook i ymgyrchu dros yr achos. Plîs ymunwch.
Speeding on the A20: Case Dismissed!
17 hours ago
No comments:
Post a Comment