Democratiaid Rhyddfrydol eisiau gwahardd dwr potel o Geredigion.
Os oes rhywbeth nad oes prinder ohono yng Ngheredigion, dŵr yw hwnnw, ac os yw’r prynwr yn fodlon talu am ddŵr wedi’i botelu yna gadewch i hynny gyfrannu tuag at yr economi leol. Am y rheswm hwn, mae gennym ddau gwmni llwyddiannus TyNant a Llanllyr yn gwerthu dŵr i’r cyhoedd ehangach a masnach bwytai yn neilltuol. Mae’r poteli’n gain a’r dŵr yn flasus, rhaid eu canmol am greu cynnyrch gwerthfawr!
Mae’n bosib i chi glywed am waharddiad arfaethedig ar ddŵr potel yn Awstralia ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau ei ymestyn i Geredigion a thu hwnt. Ar Dau o'r Bae ddydd Gwener diwethaf 10/7/2009 cytunodd y Cyngh Mark Cole (cynorthwy-ydd Mark Williams AS a Maer presennol Aberteifi) gyda Vaughan Roderick y dylem ‘heb os’ wahardd dŵr potel. Beth ddaeth dros ei ben? Byddai’r gost i economi Ceredigion yn sylweddol.
Tybed beth mae Mattew Gee, un o Ddemocratiaid Rhyddfrydol blaenaf Ceredigion yn feddwl o hyn oll? Mae ef a’i frawd yn rhedeg pethau yn Llanllyr ac mae’n debyg na fyddant yn bles iawn gydag ymadrodd y Cyngh Cole. Beth am yr holl unigolion sy’n gweithio i’r ddau gwmni? Gwaharddwch ddŵr potel meddai’r Cyngh Cole a gwnewch yr holl bobl hyn yn ddi-waith, cyngor gwael o ystyried cyflwr enbydus yr economi.
Meddyliwch cyn siarad Gynghorydd Cole!
An easy mistake
3 days ago
No comments:
Post a Comment