Sioe Aberystwyth 2009
Tywydd da, tyrfa dda – cyferbyniad llwyr â’r wythnos flaenorol mewn rali CFfI gwlyb (trueni mawr gan mai dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i nifer).
Yn y gorffennol pell, ni fu fy arbrawf â dangos defaid yn llwyddiant syfrdanol a ni allaf wneud dim ond edmygu ymroddiad a dyfalbarhad yr arddangoswyr drwy gydol y tymor sioe.
Treuliais y rhan fwyaf o’r prynhawn gydag Elin Jones AC a’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Grŵp Plaid yng Nghyngor Sir Ceredigion, yn cymdeithasu a siarad â mynychwyr y sioe. Synopsis byr - NFU, FUW, rhesi o ddefaid, hen beirianwaith, eraill yn llongyfarch Plaid ar ganlyniad ardderchog etholiad Ewrop yng Ngheredigion, Y Sioe Frenhinol, Sioe’r Cardis i brynu crys rygbi i godi arian gan Dilys Morgan (yn enwog am ei marmaled ym Marchnad y Ffermwyr), ticedi raffl ar gyfer y digwyddiad dan sylw gan Huw Tudor, tynnu raffl y sioe ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2010, sgwrs gyda Dai Jones, Llanilar.
Sylwad gorau’r prynhawn “…welsoch chi’r spin Lib Dem ar ganlyniadau etholiad (Ewrop) yr wythnos ddiwethaf? Rwyf newydd weld Mark Williams ac os byddant yn defnyddio’r un spin yr wythnos hon yna bydd ‘ROCK STAR VISITS ABERYSTWYTH SHOW’ yn ymddangos yn y Tivyside.” Hiwmor iach Ceredigion, gwych!
Only four years?
1 day ago
No comments:
Post a Comment