Dychwelyd at ragrith y Lib Dems!
Beth yw safbwynt y Democratiaid Rhyddfrydol ar dai fforddiadwy? Gwnaeth Mark Stephens, y cynghorydd Dem Rhydd sy’n gyfrifol am gyllid yng Nghaerdydd, ddatganiad yn nodi fod yn rhaid i'r Llywodraeth Gymreig roi'r gorau i gefnogi tai fforddiadwy tra bod Peter Black, eu llefarydd yn y Cynulliad wedi dweud nad yw llywodraeth Cymru'n Un yn gwneud digon dros dai fforddiadwy.
Maent yn dweud un peth mewn un ardal, ac yn dweud y gwrthwyneb mewn man arall. Eu polisi cenedlaethol yw ymosod ar Lywodraeth Cymru am beidio gwneud digon dros dai fforddiadwy, tra pan fyddant mewn grym maent yn dadlau dros dorri cyllid i dai fforddiadwy.
Mae tai fforddiadwy yn fater pwysig yng Ngheredigion a rhaid i ni gwestiynu beth yw eu safbwynt ar hyn.
An easy mistake
3 days ago
No comments:
Post a Comment