Sioe Frenhinol Cymru 2009
Mae gan Gymru le i fod yn falch o’i digwyddiadau cenedlaethol, yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ac wrth gwrs, Sioe Frenhinol Cymru. Fel y dywedodd un siaradwr yr wythnos hon ‘dewch o hyd i 10% o boblogaeth Cymru yma yr wythnos hon, ac nid oes syndod mai yn y digwyddiadau hyn y daw’r teulu Cymreig ynghyd i gystadlu, i gymharu a rhwydweithio, y rheswm dros bresennoldeb llawer o wneuthurwyr penderfyniadau.
Mae’n debyg fod hyn yn cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y sioe a’r gwahaniaeth rhwng RWAS ac RASE; mae’r RWAS yn sioe amaethyddol, yn sioe geffylau, marchnad Sul fawr, cyfle i rwydweithio, a llawer mwy. Golyga wahanol bethau i wahanol bobl.
Cafwyd tywydd derbynniol dydd Llun, glaw ysgafn gydag ambell ysbaid o heulwen dydd Mawrth, glaw trwm dydd Mercher, nol i’r gwaith yn y Brifysgol dydd Iau a mynd a’m siwt at y sychlanhawyr. Dyma rai o’r uchafbwyntiau a brofais yn ystod y 3 diwrnod:-
Pryder mwyaf – gwylio’r rhedwyr gyda’i meirch dydd Mercher a gobeithio na fyddant yn llithro yn y mwd a brifo.
Joc orau – “The Liberal Democrats were on a stand just around the corner yesterday but they can’t decide where to go today!”
Roedd hyn ar stondin cwango adnabyddus
Digwyddiad mwyaf annarferol – brysio heibio stondin y Toriaid (yn edrych am Glyn Davies i gymharu nodiadau) a chlywed rhywun yn gweiddi ‘Penri’ o’r allfaes i’r chwith. Neb llai na Mark (Williams) newydd weld etholwr o Geredigion yr oedd yn ei adnabod. Sgwrs dda ond cefais fy nrysu braidd gan Kirsty yn gwgu yn y cefndir, fi neu Mark oedd yn ei chael hi?
Boddhad mwyaf – cyn-fyfyrwyr bellach yn arweinyddion o fewn eu meysydd ac yn diolch i Brifysgol Aberystwyth am eu haddysg.
Cwrw gorau – dim llai na chwrw Penlon Steffan a Penny, cynnyrch wedi’i fragu o Haidd Ceredigion.
Emuskulation
1 day ago
No comments:
Post a Comment